GTB ar Hawliau Digidol a Democratiaeth yng Nghymru – Yr UE a’r Fasnach Ddigidol

Dyddiad: 21-10-22

Wedi'i gynnal yn rhithiol

 

Yn bresennol

Gareth Wiliams – Alun Davies AS (GW)

Valentina Pavel – Sefydliad Ada Lovelace (PV)

Sophia Akram – Grŵp Hawliau Agored (SA)

Jim Killock – Grŵp Hawliau Agored (JK)

Mariano delli Santi – Grŵp Hawliau Agored (MdS)

Ceri Williams –  (TUC Cymru) (CW)

Ryland Doyle – Mike Hedges AS (RD)

Dan Rose – Carolyn Thomas AS (DR)

Emily Hearne (EH)

Myles Lewando (ML)

Al Ghaff – Grŵp Hawliau Agored (AG)

Arne Hintz

James Wallice – Sam Kurtz AS (JW)

Ed Bridges (EB)

Ceri Taylor (CT)

Joseph Seddon – Wicimedia (JS)

Ioan Bellin – Rhys ab Owen MS (IB)

David Rees AS (DR)

Chloe Rees – Sarah Murphy AS (CR)

Cate Hopkins (CH)

Sarah Murphy AS (SM)

 

 

1.    Mae SM yn croesawu, yn rhoi crynodeb o waith y GTB ac yn cyflwyno rhaglen waith y dyfodol,

-       Mae hi’n nodi’r sesiwn sydd i’w chynnal yn y dyfodol ar fenywod mudol a niweidiau rhannu data, technoleg adnabod wynebau a phlismona a phlant yn y system gyfiawnder ieuenctid a niweidiau rhannu data.

 

1.    Mariano Delli Santi, Grŵp Hawliau Agored

 

              O ran masnach ddigidol, y mater mwyaf i’w nodi yw diwygio trefn diogelu data y DU.

              Cydnabyddir diogelu data yn Ewrop a ledled y byd yn gynyddol fel hawl ddynol. 

              Mae data'n cael ei gasglu ym mhob man ac yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau amdanoch chi - pan fyddwch chi'n gwneud cais am fisa i groesi'r ffin, pan fyddwch chi'n gwneud cais am forgais, pan mae angen gwybodaeth ar y banc i asesu eich teilyngdod i gael credyd ac ati.

              Mae technoleg newydd yn caniatáu i'r wybodaeth hon fod ar gael yn gynyddol, yn fwy nag y gellid fod wedi ei ddychmygu efallai.  

              Pan fyddwch chi'n pori'r rhyngrwyd, er enghraifft, mae gwybodaeth yn cael ei chasglu sy’n gallu cael ei rhannu ag asiantaethau sgorio credyd. Gall cyflogwr neu ysgol eich monitro, a chasglu data ymddygiadol sydd wedyn yn gallu cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau ynghylch eich graddfa, i roi rhybudd o ran eich tuedd i gyflawni twyll ac ati.  Yn ein pocedi mae gennym ffynhonnell ddata fawr (ein ffonau) ond mae hefyd yn risg enfawr. Gellir ystyried enghraifft o'r Unol Daleithiau, lle mae menywod yn cael eu herlyn am gael mynediad at glinigau erthyliad.

              Etifeddodd y DU y GDPR o'r UE pan oedd yn rhan o'r bloc, ond ar bwynt penodol fe ddechreuodd feddwl sut i ymwahanu o'r safonau hyn. Mae cynigion diwygio’r DU wedi'u cynllunio i'w gwneud hi'n haws defnyddio data personol. 

              Un mater sylfaenol yn y diwygiadau hyn yw y bydd llawer o bŵer yn cael ei roi i'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud rhannu data yn gyfreithlon, ee at ddibenion gorfodi'r gyfraith, er budd diogelwch cenedlaethol, a bydd yn creu sefyllfa lle nad yw diogelu data yn gweithio sut y dylai.

              Dylai diogelu data fod yn creu safonau lle rydych chi'n cydbwyso hawliau unigolion â buddiannau eraill. Dylai ddarparu gwell hawliau, fel mynediad at iechyd. Nid yw yno i fod o fudd i sefydliadau ariannol, er enghraifft. Gall ymdrechion i wella effeithlonrwydd gwasanaethau nawr fod uwchlaw ystyriaethau unigol.

              Mae newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i hawliau unigol o dan y gyfraith newydd. Nid safonau cyfreithiol yn unig yw'r rhain ond mae diogelu data o dan GDPR hefyd yn ymwneud â grymuso pobl i reoli eu data, yr hawl i gael mynediad a'i ddileu ac ati. Bydd trothwy newydd yn caniatáu i gyrff beidio â gweithredu ar gais i gael mynediad (cais mynediad pwnc) os ydynt yn ei ystyried yn ‘flinderus’, sy’n derm rhy eang o lawer.

              Byddai newidiadau hefyd i'r fframwaith atebolrwydd gyda safonau'n cael eu gwanhau. Er enghraifft, pan fo asesiadau effaith diogelu data gorfodol (DPIAs) yno i ddangos cydymffurfiaeth wrth brosesu data, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i benderfynu a ddylid defnyddio'r angen am asesiad yn ymarferol. Mae hyn yn symud y drafodaeth o ystyried a oedd sefydliad yn gweithredu'r gyfraith i weld a oes rhaid iddyn nhw wneud yr asesiad yn y lle cyntaf, gan ychwanegu haen arall cyn diogelu.

              Mae'r GDPR, fel y mae wedi'i lunio heddiw, yn creu rheolau i drosglwyddo data i drydydd awdurdodaethau. Mae'n anodd iawn rhannu gwybodaeth dramor, ond ni ddylai hynny fod yn rheswm dros osgoi'r gyfraith. Mae gan y GDPR agwedd wrthrychol at hyn, o ran y gellid rhannu’r data hwnnw ag unrhyw le sydd â lefelau diogelwch cyfatebol. Fodd bynnag, o dan y gyfraith newydd, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol wedi ei rymuso i awdurdodi trosglwyddiad. Bydd rhai o'r rhesymau dros y gymeradwyaeth hon yn ôl disgresiwn, tra bydd prawf hefyd i benderfynu a yw sefydliad wedi cyflawni diwydrwydd dyladwy o ran ble mae'r data'n cael ei drosglwyddo, ac, os yw'r prawf hwnnw wedi ei fodloni, bydd y trosglwyddiad yn cael ei ganiatáu.  

              Mae cyfres arall o newidiadau yn ymwneud â newidiadau i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Mae'r ICO yn awdurdod annibynnol, sy'n bwysig oherwydd bod diogelu data yn sail i lawer o hawliau dynol. Er enghraifft, mae mater erthylu hefyd yn ymwneud â rhyddid mynegiant a rhyddid crefyddol. Felly, o ran gorfodi, dylai rheolau diogelu data fod yn wrthrychol ac yn rhydd o ddylanwad.

              Bydd yr ICO yn cyflwyno codau ymarfer i’w cymeradwyo gan yr Ysgrifennydd Gwladol. ... [braidd yn niwlog fan hyn] Y pwynt sylfaenol yw y bydd hyn yn gostwng lefel y diogelu data mewn rhai achosion.

              Ar hyn o bryd mae gan y DU ddigonolrwydd, sy 'n caniatáu i'r UE a'r DU fasnachu data. Bydd colli hyn yn arwain at gost economaidd. Bydd ffioedd cyfreithiol oddeutu 1.6 biliwn o bunnoedd. Nid yw hyn yn cynnwys y gost uwch i’r UE i atal data personol yn y DU neu i arwyddo cytundeb. Bydd y costau hyn yn atal cwmnïau o’r UE rhag gweithio gyda'r DU gan y byddent yn dewis gweithio gyda rhywun o wlad wahanol. 

              Bydd y newidiadau arfaethedig yn tanseilio'r penderfyniad digonolrwydd; bydd yr hawl newydd yn groes i gyfraith achos yn Ewrop o ran ystyried cywerthedd a bydd hyn yn gost enfawr i fusnes.

              Bydd hefyd yn effeithio ar y ffordd y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu deddfu ac yn creu llawer o ansicrwydd anghyfreithlon. 

              Bydd effaith gwarthnodi ar y DU hefyd. Ystyriwch gwsmer a fydd yn gwneud cais am fynediad at ddata gan y testun i sefydliad yn y DU ac fe'i gwrthodir oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn flinderus. Os ydynt yn gwneud yr un cais mewn gwlad arall, e.e. Ffrainc, ac fe'i derbynnir, bydd anghydraddoldeb ymddangosiadol o ran triniaeth rhwng gwledydd. 

 

Noda SM:

 

               Tynnodd Sara sylw at gytundeb digonolrwydd data sydd ar ddod rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU ac mae'n amlwg y byddant am sicrhau ei bod yn haws anfon data i'w gilydd. 

              I ystyried pam eu bod yn gwneud hyn. Mae elfen o gymryd rheolaeth yn ôl ond yn y pen draw maen nhw'n cael eu hysgogi gan arian ac mae'r rheolau presennol yn golygu y bydd hi’n cymryd gormod o amser i archwilio’n briodol.  

 

1.    Valentina Pavel, Sefydliad Ada Lovelace

 

              Mae Sefydliad Ada Lovelace yn ymwneud â chreu gweledigaeth gyffredin o ran sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio er lles ac i wella bywydau, sy'n eiriol dros ddull technegol ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae atebolrwydd ac arferion sy’n seiliedig ar hawliau haeddiannol yn greiddiol. 

              O fewn y Bil diogelu data newydd, hoffen nhw fod wedi gweld pwyslais cryfach ar hawliau. Mae'n colli cyfle i leihau'r anghydbwysedd pŵer rhwng testunau data a rheolwr data, ac mae'n creu trefn baralel. 

              Roedd gan GDPR rôl ddeuol bob tro - i ddiogelu hawliau ond hefyd i amddiffyn economi'r UE. 

              Dylai'r offeryn gyflawni'r ddau amcan ond nawr mae llawer iawn mwy o bwyslais yn y DU ar arloesi a gyrru agendâu preifat a chorfforaethol.

              Mae Sefydliad Ada Lovelace wedi dadansodddi agweddau'r cyhoedd a chanfod bod pobl yn teimlo bod ganddyn nhw lai o reolaeth ac eisiau mwy o reoleiddio, ac maen nhw'n dod yn fwy ymwybodol o faterion sy’n ymwneud â data. Maen nhw'n poeni am y diffyg eglurder o ran sut y caiff eu data ei ddefnyddio a does fawr ddim yn y Bil i fynd i'r afael â'r pryderon hyn.

              Mae asesiadau o'r effaith ar breifatrwydd data, darpariaethau sy’n ymwneud â chadw cofnodion a dadwneud rôl y swyddog diogelu data yn lleihau atebolrwydd ar un ochr ac yn cynyddu nifer y rhesymau dilys dros gasglu data. 

              Mae nifer o gyfyngiadau ar ddeddfwriaeth ac fe allai fod ymyriadau nad ydynt yn gyfreithiol, fel canllawiau nad ydynt yn gyfreithiol. 

              Bydd yn gostus i fusnesau canolig weithredu safonau newydd, er enghraifft,  a dim ond y corfforaethau mawr fydd yn gallu gweithredu'r newidiadau cyfreithiol, a bydd busnesau bach a chanolig yn ei chael hi'n anodd gweithredu'r safonau newydd. O ran TG, gwelwyd mai diffyg templedi a chyflwyno mecanweithiau sydd wedi llesteirio gweithredu yn y gorffennol, yn hytrach na diffyg deddfwriaeth.

              Mae diffyg digonolrwydd hefyd yn fater o bryder.  

              Yn ogystal â phryderon cyffredinol, mae gan Sefydliad Ada Lovelace bryderon ynghylch nifer o feysydd penodol, er enghraifft, biometreg, mecanwaith tryloywder, gwneud penderfyniadau awtomataidd. 

              Yn ddiweddar, bu Sefydliad Ada Lovelace yn gweithio ar adolygiad cyfreithiol annibynnol ynghylch biometreg, ac o'r canfyddiadau a'r dystiolaeth a gasglwyd, maent yn nodi wrth grynhoi bod angen rhagor o orfodaeth, ond bod  y Bil wedi methu â chyflwyno deddfwriaeth gynhwysfawr – preifat a chyhoeddus. 

              Mae gwahardd mecanweithiau tryloywder hefyd yn achosi anesmwythyd ac mae angen rhagor o dryloywder o ran algorithmau'r Swyddfa Gartref, lle gwelir yr algorithm ffrydio fisa, er enghraifft. 

              Mae diffiniadau ar goll yn y ddarpariaeth newydd ynghylch gwneud penderfyniadau awtomataidd. Mae diffyg manylion yn y Bil, er enghraifft, o'r hyn yw ‘penderfyniad sylweddol: neu’r hyn mae ‘ymwneud dynol ystyrlon’ yn ei feddwl.

              Nid oes diffiniad o ymchwil wyddonol ac mae'n ymddangos ei fod yn cynnwys unrhyw ymchwil y gellir ei ddisgrifio'n wyddonol. Mae hynny'n rhy eang ac mae angen ei dynhau. Gallai'r diffiniad, fel y mae ar hyn o bryd, godi cwestiynau am ymchwil sy'n cael ei ariannu'n breifat ac arwain at gynnydd mewn technolegau sy'n beryglus i gymdeithas. 

 

1.    Ceri Williams, TUC Cymru

 

              Mae TUC Cymru yn dod â 5.5 miliwn o bobl ynghyd ac yn sefyll dros bawb sy'n gweithio am fywoliaeth– maen nhw'n pryderu am hawliau gweithwyr. 

              Cafodd y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Digidol ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd yr ail ddarlleniad ar 5 Medi. 

              O ran bod yn berthnasol i dechnoleg ym myd gwaith, mae’n cynnwys systemau algorithmig, prosesu data,  ac yna'r penderfyniad awtomataidd a wneir ar y diwedd. 

              Mae'r TUC wedi bod yn gweithio ar y risg hon i weithwyr – troseddau’n ymwneud â diogelu data, diffyg rheolaeth a gwybodaeth am sut y caiff data ei ddefnyddio, ffiniau o ran y defnydd o ddata, yr effaith ar iechyd a diogelwch, gwahaniaethu, a'r diffyg gallu i herio penderfyniadau. 

              Mae’r GDPR yn rhoi pwyslais ar hawliau lle mae data personol yn y cwestiwn.

              Mae’r anghydbwysedd o ran pŵer rhwng cyflogwr a gweithiwr yn sylweddol, fodd bynnag, ac nid oes gan y gweithwyr lawer o bŵer dros eu data. 

              Nid yw'r ddeddfwriaeth bresennol yn berffaith ond mae'n cynnwys amddiffyniadau pwysig ac yn caniatáu rhywfaint o unioni'r anghydbwysedd, er enghraifft, drwy osod seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu data ac o ran  penderfyniadau awtomataidd. 

              Bydd y gyfraith newydd yn diwygio'r GDPR ac yn dileu amddiffyniadau pwysig, ac mae darpariaethau allweddol yn y Bil yr hoffai'r TUC eu gweld yn cael eu newid, yn cynnwys galw ar y Llywodraeth i edrych ar yr asesiad o’r effaith ar ddiogelu data a newid y prawf lles dilys, er enghraifft.

              Mae hawl testunau data i wneud cais am fynediad at ddata yn hawl bwysig. Mae'n galluogi gweithwyr i gael mynediad at ddata personol ond mae'r rheol newydd hefyd yn rhoi hawl ehangach i gyflogwyr wrthod ceisiadau. 

              Pobl ac nid peiriannau ddylai wneud penderfyniadau, yn enwedig lle bydd y penderfyniadau hynny'n cael effaith sylweddol ar weithwyr ac mae'n rhaid cael hawl i adolygiad dynol.

              Mae’r TUC Cymru yn awyddus i weld ethos digidol newydd, sy’n cynnwys gwelliannau Aelodau Seneddol ar ethos ac amddiffyniadau newydd i weithwyr-yn erbyn gwahaniaethu-, gan wneud proses wahaniaethu yn anghyfreithlon bob amser. Mae’n rhaid cael hawl i adolygiad dynol ar gyfer penderfyniadau risg uchel, ac ymgysylltu wyneb yn wyneb â rheolwyr, gan fod gweithwyr yn cael eu rheoli gan bobl nid peiriannau, ac, o safbwynt y TUC, nid oes modd herio peiriant.

              Dylid fod hawl statudol i ddatgysylltu, fel sydd yn yr UE, fel bod gan bobl amser yn rhydd o gyfathrebu yn eu bywydau.

              Dylai fod yn ofynnol i sefydliadau ddangos sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio i wneud penderfyniadau risg uchel. 

              Gallai deallusrwydd artiffisial roi cyfleoedd i weithwyr yn ogystal â risgiau. I'r perwyl hwn, gallai cyfnewid data  helpu o ran unioni anghydbwysedd. Gall gweithwyr elwa o offer deallusrwydd artiffisial drwy ddadansoddi data i gefnogi ymgyrch y TUC am well gwaith ac amodau.  

              Dylai manteision deallusrwydd artiffisial yn ehangach gael eu cynnal a'u gwella'n feirniadol.

 

Noda SM:

 

 

              Gall fod yn anodd gweld ac amgyffred sut yn union mae data'n cael ei ddefnyddio ac felly'n ei gwneud hi’n anodd i gynrychiolwyr undebau llafur ei wrthsefyll.

              Mae Bil partneriaeth gymdeithasol Cymru ar y gweill, ond nid yw’n ymwneud â gwaith teg. Mae’n ddyletswydd arall i’w ychwanegu at y Bil o ran cymhwysedd. Bydd hyn yn nwylo ASau yn y pendraw.

1.    Sesiwn holi ac ateb

 

Jim Killock, Grŵp Hawliau Agored

 

              Mae’n dweud ei bod hi'n bwysig i Gymru o ran dau fater. Yn gyntaf, yr effaith ar ddiwydiant yng Nghymru, sy'n ei gwneud yn llai cystadleuol ac yn anoddach i fasnachu ag Ewrop ac sy'n niweidio perthynas busnesau â Chymru. Yn ail, mae goblygiadau cyhoeddus, mae angen ystyried polisïau, y ddyletswydd atal, bydd atebion i broblemau mawr yn mynd yn anoddach a bydd yn agor y llifddorau i arfer gwael iawn. 

              Mae'n bwysig i Seneddau Cymru a'r Alban wthio'n ôl gan nad yw'n dda i fusnesau na masnachu. Ni ddylai gweinyddiaethau datganoledig fod eisiau dioddef yr anfanteision hynny. 

              O ran y Llywodraeth Geidwadol bresennol hon, mae materion economaidd yn fan gwan. Fodd bynnag, bydd y gyfraith newydd dim ond o fantais os ydych chi am wneud pethau gwael, yn hytrach nag eisiau ennyn ymddiriedaeth cwsmeriaid a masnachu gydag Ewrop, sef yr hyn y mae'r mwyafrif o gwmnïau eisiau ei wneud, gyda'r masnachwyr olew nadroedd yn y lleiafrif.

              Ystyriwch a ydych chi eisiau gweledigaeth ddemocrataidd gymdeithasol neu gyfalafiaeth marchnad rydd sydd wedi cael ei phedlera’n aflwyddiannus dros yr wythnosau diwethaf.

 

Ceri Williams (TUC Cymru)

 

              Amlygodd sgwrs sydd ar y gweill: Sgyrsiau AI @ ETUI gyda Hamid Ekbia https://crm.etui.org/form/ai-talks-etui-with-hamid-ekbia-e?cid1=44114&cs=b519a1e29dba2e5da8e8bf2c4e9abce8_1666345304_4392

 

 

Sarah Murphy AS

 

              Cwestiwn ar y potensial i werthu'r data yma os caiff y newidiadau hyn eu derbyn. Mae’n ei tharo fel llethr llithrig tuag at gwmnïau iechyd yn defnyddio a gwerthu data.

              Cafwyd enghraifft o ran sut mae Llywodraeth Cymru nawr yn ystyried sicrhau arian ffermio cynaliadwy a bydd yn rhaid i ffermwyr ddechrau darparu data, rhywbeth maen nhw wedi ei wneud am beth amser, ond nawr bydd yn ofynnol. Felly, os yw GDPR yn cael ei gymryd i ffwrdd ac ati, nid oes modd i Lywodraeth Cymru wneud unrhyw beth i herio'r gofyniad hwnnw. Mae pryder o ran ffermwyr sy'n gwneud cais am yswiriant atebolrwydd, er enghraifft. A fydd eu data ar gael i gwmnïau? Os oes modd gwerthu'r data hwnnw a fydd proses gydsynio? 

 

Mariano delli Santi, Grŵp Hawliau Agored

 

              Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol lawer o bŵer yn hyn o beth. Yn ei ffurf isaf, mae eithriadau dadleuol eisoes yn bodoli o dan wedd diogelwch cenedlaethol.

              Unwaith y byddwch chi'n rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol, gall y rhestr ar gyfer yr eithriadau hynny gael ei hymestyn ar unrhyw adeg, drwy offerynnau statudol sydd, yn hanesyddol, heb gael eu craffu rhyw lawer. Er enghraifft, canfu'r Prosiect Cyfraith Gyhoeddus, mai’r tro diwethaf i offerynnau statudol gael gwrthod oedd yn y 1970au, ac ychydig iawn sydd wedi cael eu gwrthod yn hynny o beth. Felly, mae modd rhagweld senario debyg yn y dyfodol. Gallai'r Llywodraeth lunio cynllun cyhoeddus i werthu neu rannu data. Mae camau i ddiogelu data i fod i atal yr hyn gall llywodraeth ei wneud neu beidio gwneud, ond os ydynt yn cael rhwydd hynt i wneud yr hyn y maen nhw ei eisiau yna byddant yn gwneud hynny.

              Ni fydd adolygiad barnwrol yn berthnasol iawn.  

              Mae'n fater o reolaeth y gyfraith. Mae’r Llywodraeth eisiau’r pŵer i benderfynu ar yr hyn sy’n gyfreithlon a’r hyn nad yw’n gyfreithlon. 

 

Valentina Palace, Sefydliad Ada Lovelace

 

              Mae’n annog pobl i edrych ar wahanol ddarpariaethau'r bil gyda’i gilydd.  

              Efallai nad oes bwlch yn y gyfraith i werthu data fel y mae. Edrychwch ar y darpariaethau o ran ymchwil, fodd bynnag, neu'r prawf dibenion, sydd wedi cael eu ehangu, ac mae’r rhain i gyd yn ddarnau o'r Bil sy'n codi llawer o gwestiynau ac yn dangos y diffyg pŵer sydd gan y bobl. O ran buddiant dilys, gwyddom fod gennym sail gyfreithiol newydd erbyn hyn. 

              Mae'r cyhoedd wedi bod yn glir eu bod nhw am weld cydsynio yn sail i gasglu data. Nid yw'n wir bod trwydded gymdeithasol. Mae angen meddwl am y pwrpas o ran cynnwys ymgysylltu democrataidd yn fwy beirniadol.

              Ni ddylid fod rhwydd hynt o ran marchnata pleidiau gwleidyddol neu ddefnydd arall, nad ydynt o’r un pwysigrwydd â budd y cyhoedd neu eithriadau sy’n ymwneud â diogelwch gwladol.

 

Sarah Murphy AS

 

              Mae hyn yn mynd yn ôl at wraidd y mater o ran ei fod yn rhoi pwerau di-ben-draw i rai pobl ac mae'n annemocrataidd iawn. 

              O ran y GTB, mae’n berthnasol oherwydd er nad yw e efallai o fewn cymhwysedd Cymru, fe fydd yn effeithio ar Gymru, ac mae gennym gyfrifoldeb felAaelodau o'r Senedd i edrych ar hyn yn fanylach.  

 

Joseph Seddon, Sefydliad Wikimedia

 

- Cwestiwn ar atebolrwydd deallusrwydd artiffisial a hawliau gweithwyr. A oes unrhyw ddarpariaethau yn y Bil ar ddiogelu data newydd neu’r Bil arall, p'un ai mai atebolrwydd i hawlwyr mewn unrhyw faes fydd yn rhoi’r baich profi ar  ddyfeiswyr offer deallusrwydd artiffisial fel dull posibl sy'n caniatáu creadigrwydd ond sydd hefyd yn caniatáu i bobl herio sefyllfaoedd o gam-drin offer deallusrwydd artiffisial.  

 

Mariano delli Santi, Grŵp Hawliau Agored (?)

 

              Yr ateb sydyn yw na, does dim byd felly i’w gael. Mae Erthygl 22 ar wneud penderfyniadau awtomataidd yn dangos hynny. Nid trefn atebolrwydd mohoni ac nid oes trafodaeth o'r fath yn digwydd yn y DU ar hyn o bryd. Mae GDPR yn ei gwneud hi'n ofynnol i fod dynol fod y ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd, ac yna, pan gaiff y canlyniad ei dderbyn, mae’r fframwaith cyfreithiol newydd yn gwbl wahanol a mesurau diogelu yn wan. Meddyliwch am y canlyniadau, er enghraifft, o ran penderfyniadau awtomataidd sy’n ymwneud â cheiswyr lloches.  

 

 

Sarah Murphy AS, Sennedd Cymru

 

              Bydd trefnwyr GTB Cymru yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am y sesiynau, y cwestiynau a'r ymatebion. 

              Bydd y sesiwn nesaf ar 9 Rhagfyr yn ymwneud â menywod mudol a rhannu eu data rhwng cyrff cyhoeddus.

              Mae’n gobeithio codi'r mater hwn ar yr agenda, cynnal dadl a chael un o'r pwyllgorau i edrych ar y Bil hwn.  

              Mae’n annog pobl i gysylltu ag Aelodau o’r Senedd. .

              Bydd SM yn cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf maes o law.

              Bydd SM hefyd yn siarad ar gasglu data biometreg mewn ysgolion - testun sesiwn flaenorol o’r GTB - gyda Vanessa Feltz ar TalkTV.